Croeso
Mae Ardal y Project y Grug a'r Caerau yn gefnen o fryniau porffor sy'n codi uwchben lloriau gwyrdd dyffrynnoedd llydan. Dyma dirwedd sy'n wefreiddiol hardd, a llawer iawn ohoni'n gorwedd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.
Ar rostiroedd yr uchelderau gwelir brithwaith o rug, llus, eithin a rhedyn - y cyfan yn gynefin sydd o bwys yn Ewropeaidd. Dyma gartref cymuned arbennig o adar yr ucheldir sy'n magu yma, fel y rugiar ddu brin, y rugiar goch, boda tinwyn, mwyalchen y mynydd, crec yr eithin a'r dinwen.
Bu cymunedau a diwylliannau'r gorffennol yn troedio'r dirwedd hon. Ar ben y bryniau mae cadwyn o fryngaerau Oes yr Haearn. Heddiw, mae'r rhostir yn darparu porfa gwerthfawr i ddefaid. Harddwch y golygfeydd sy'n sail I bwysigrwydd yr ardal ar gyfer hamdden a thwristiaeth.
Oherwydd y cyfuniad o dreftadaeth naturiol a hanesyddol Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio, dyma dirwedd sy'n wirioneddol unigryw - yn hardd, yn gyforiog o fywyd gwyllt ac o ddiddordeb archeolegol. Mae'n aros i lawer ei ddarganfod.
Dechreuwch ar eich antur trwy lusgo eich llygoden dros y tab Y Grug a'r Caerau uchod i ganfod mwy am ein 6 bryngaer ardderchog a'n ffriddoedd grug sydd o bwys Cenedlaethol. Cliciwch ar yr eiconau i ganfod mwy am rai o'r llefydd sydd o fewn ardal Y Grug a'r Caerau.