Grug a'r Caerau’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy lansio DVD syfrdanol Argraffu

Cymerwyd dwy flynedd i’w gynhyrchu, ac ar Fawrth 1, bydd tîm Grug a'r Caerau Sir Ddinbych yn dangos y ffilm am y tro cyntaf mewn lansiad arbennig yn Sinema’r Scala, Prestatyn.


Gyda chefndir y grug â’r bryngaerau sy’n rhychwantu prydferthwch Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Clwyd a Mynydd Llantysilio, mae’r DVD yn olrhain hanes hynafol y dirwedd, o oes y rhew a gerfluniodd y bryniau drwodd i’r dydd heddiw a’r gwaith parhaus i ddiogelu’r ardal hon sy’n rhyngwladol bwysig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae ffotograffiaeth awyr ysblennydd yn nodwedd o’r ffilm, yn arddangos y bryniau tonnog wedi eu gorchuddio â grug porffor, i lawr drwy lawr y dyffryn gwyrdd.  Mae yna hefyd gyfraniadau gan bobl leol am eu barn ar dirwedd yr ardal.


Mae’r Cynllun Grug a'r Caerau’n Brosiect Partneriaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri gyda Chynghorau Sir Ddinbych a Sir Fflint ac fe’i crëwyd i ddiogelu a chynnal gwell dealltwriaeth o dreftadaeth y bryngaerau a rhostir grugog Bryniau Clwyd a Mynyddoedd Llantysilio.

Yn dilyn y lansio swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi, fe barheir i sgrinio’r ffilm yn y Scala cyn dangos ffilmiau.  Gobeithir hefyd y caiff ei sgrinio yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug.  Fe ddefnyddir y DVD hefyd i hyrwyddo twristiaeth yn yr ardal a chaiff ei sgrinio ar ddolen mewn Canolfannau Croeso.  Bydd ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads hefyd yn gallu mwynhau’r lluniau awyr hynod o’r bryniau yn y dyfodol.

Meddai Swyddog Grug a'r Caerau Sir Ddinbych, Helen Mrowiec: “Rydym wrth ein bodd â’r ffilm, a fydd yn declyn gwerthfawr i addysgu ymwelwyr a’r gymuned leol am bwysigrwydd rhyngwladol AHNE Bryniau Clwyd a’r bryngaerau sydd ar hyd Mynyddoedd Llantysilio, yn ogystal â hyrwyddo’r ardal fel cyrchfan twristiaid.  Rydym mor ffodus i gael treftadaeth mor ffantastig ar garreg ein drws.”